Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

ymadael â’r undeb Ewropeaidd, CYMRU

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin â methiannau yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid ac iechyd planhigion.

Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau TARP”).

Mae rheoliad 2(2) yn hepgor y diffiniad o “cynnyrch” o’r Rheoliadau TARP. Mae hefyd yn mewnosod diffiniad o “y rhestr cyfundrefn enwi gyhoeddedig” yn y Rheoliadau TARP er mwyn cymryd i ystyriaeth y ffaith y cyflwynir rhestr o gynhyrchion anifeiliaid, a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, sy’n pennu cynhyrchion at ddibenion penderfynu ar y detholiad o lwythi y mae rhaid eu cyflwyno ar gyfer gwiriadau milfeddygol wrth arolygfa ffin. Yn ychwanegol at hynny, mae’n gwneud darpariaeth at ddiben dehongli cyfeiriadau at Gyfarwyddeb gan yr UE yn y Rheoliadau TARP ac offerynnau cysylltiedig gan yr UE.

Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod cyfeiriadau at Ynysoedd Faröe a Kalaallit Nunaat (Greenland) yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau TARP, sy’n darparu ar gyfer sut y mae masnach â nifer o diriogaethau penodedig i gael ei thrin at ddiben y Rheoliadau TARP.

Mae rheoliad 2(4) a (5) yn rhoi cyfeiriadau at y rhestr cyfundrefn enwi gyhoeddedig yn lle cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yn y Rheoliadau TARP.

Mae rheoliad 2(6) yn gwneud diwygiadau i reoliad 15 o’r Rheoliadau TARP, sy’n ymwneud â gweithdrefnau mewnforio. Mae’r newidiadau hynny yn cynnwys amnewidiad sy’n gosod gofyniad ar y person sy’n gyfrifol am lwyth i drefnu i’r llwyth a thystysgrif iechyd gael eu cyflwyno ar gyfer gwiriadau wrth yr arolygfa ffin.

Mae rheoliad 2(7) yn darparu nad yw’r cynhyrchion cyfansawdd a deunyddiau bwyd, a restrir gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel rhai sydd wedi eu heithrio rhag gwiriadau mewnforio milfeddygol, yn ddarostyngedig i Ran 3 o’r Rheoliadau TARP, sydd ei hunan yn darparu ar gyfer mewnforio i Gymru unrhyw anifail neu gynnyrch a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC o wlad y tu allan i’r UE.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 28(c) o Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 sydd, yn rhannol, yn hepgor erthygl 21(7) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018. Mae rheoliad 28(c) wedi ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod erthygl 21(7) wedi ei hepgor gan Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019.

Mae rheoliad 4 yn gwneud mân ddiwygiad i offeryn statudol blaenorol, sef Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 ym maes iechyd a lles anifeiliaid. Mae’r diwygiad yn dileu’r ddarpariaeth wallus yn yr offeryn hwnnw sy’n ymwneud â rheoliad 20(1)(a) o Reoliadau Clefyd Affricanaidd y Ceffylau (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1662 (Cy. 158)) y canfuwyd ei fod yn gwrthdaro â diwygiad tebyg mewn offeryn ymadael â’r UE.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

ymadael â’r undeb Ewropeaidd, CYMRU

anifeiliaid, cymru

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019([2]) a Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019([3]).

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019.

(2) Ac eithrio rheoliad 2, a ddaw i rym ar y diwrnod ymadael, daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

2.(1)(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011([4]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2—

(a)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    hepgorer y diffiniad o “cynnyrch” (“product”);

                          (ii)    yn y lle priodol, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

ystyr “y rhestr cyfundrefn enwi gyhoeddedig” (“the published nomenclature list”) yw’r rhestr o gynhyrchion a gyhoeddir ac a ddiwygir o bryd i’w gilydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, sy’n pennu cynhyrchion drwy gyfeirio at y gyfundrefn enwi berthnasol at ddibenion penderfynu ar y detholiad o lwythi y mae rhaid eu cyflwyno ar gyfer gwiriadau milfeddygol wrth arolygfa ffin.;

(b)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion unrhyw gyfeiriad at Gyfarwyddeb yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw offeryn gan yr UE y mae’r Gyfarwyddeb honno yn cyfeirio ato, neu y mae unrhyw offeryn gan yr UE y cyfeirir ato gan y Gyfarwyddeb honno yn cyfeirio ato, ac sy’n gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd, i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at yr offeryn fel y mae’n cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael.

(3) Yn rheoliad 4, yn lle “masnach â” rhodder “masnach ag Ynysoedd Faröe, Kalaallit Nunaat (Greenland),”.

(4) Yn rheoliad 9, yn lle “ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196” rhodder “yn y rhestr cyfundrefn enwi gyhoeddedig”.

(5) Yn rheoliad 12(4), yn lle “ym Mhennod 3 o Atodiad I i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196” rhodder “ym Mhennod 3 (pysgod a chramenogion, molysgiaid ac infertebratau dyfrol eraill) o’r rhestr cyfundrefn enwi gyhoeddedig,”.

(6) Yn rheoliad 15—

(a)     ym mharagraff (1), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “ddogfennaeth” hyd at “Atodlen 1” rhodder “dystysgrif iechyd berthnasol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu (yn ôl y digwydd) yr Ysgrifennydd Gwladol”;

(b)     ym mharagraff (3)(a), yn lle “gofynion sy’n ymwneud ag ef yn yr offeryn perthnasol” rhodder “amodau masnach sy’n berthnasol iddo mewn unrhyw gyfraith yr UE a ddargedwir neu offeryn arall gan yr Undeb Ewropeaidd”.

(7) Yn Atodlen 3, ym mharagraff 6(1), yn lle “Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC” rhodder “y rhestr o gynhyrchion cyfansawdd a deunyddiau bwyd sydd wedi eu heithrio rhag gwiriadau mewnforio milfeddygol a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol”.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

3. Yn Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, yn rheoliad 28(c), yn lle “paragraffau (7) ac (8)” rhodder “paragraff (8)”.

Diwygio Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

4. Yn Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019, hepgorer rheoliad 13.

 

Enw

Teitl y Gweinidog, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2018 p. 16.

([2])           O.S. 2019/674 (Cy. 130).

([3])           O.S. 2019/463 (Cy. 111).

([4])           O.S. 2011/2379 (Cy. 252), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/463 (Cy. 111). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.